Mae Doopoll yn creu meddalwedd arolygu amser real i arolygu, cipio data a chyflwyno canlyniadau, i gyd mewn amser real.
Gweithiodd y busnes newydd o Gymru i ddatblygu ateb i helpu Trafnidiaeth Cymru i wella ei system adborth “Siarad â ni” – nad yw’n ddim ond blwch derbyn negeseuon e-bost ar hyn o bryd.
Ateb Doopoll oedd symud o’r system bresennol i ddull a fyddai’n symleiddio’r broses a’i gwneud yn fwy effeithlon, drwy ymgorffori nodweddion yr oedd defnyddwyr presennol wedi’u nodi fel rhai a oedd yn helpu’r broses gyfan. Byddai hyn yn symud y llwyfan yn effeithiol o flwch derbyn e-bost i system ar-lein, sy’n gallu casglu gwybodaeth a symleiddio’r broses ymateb.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.