Mae Porter yn gydymaith teithio digidol, sydd wedi’i ddylunio i wneud teithio’n ddidrafferth o’r cam darganfod ac archebu, i brofi a mwynhau. Maen nhw’n canolbwyntio ar gysylltu eu haelodau â’r dewisiadau teithio gorau posibl iddyn nhw.

Mae Porter yn cydnabod pa mor anodd yw archebu teithiau. Mae gormod o ddewis, gwybodaeth amherthnasol, ac un dull gweithredu i bawb ar y rhan fwyaf o safleoedd archebu teithiau. Maen nhw’n creu ateb sy’n rhoi eu defnyddiwr wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud – gan ganolbwyntio ar greu profiad personol wedi’i deilwra.
Maen nhw’n deall bod TrC yn rhannu’r gwerthoedd hyn o hyrwyddo profiad rhagorol i gwsmeriaid, ac maen nhw’n credu eu bod mewn sefyllfa dda i helpu cwsmeriaid rheilffyrdd TrC i gynllunio a mwynhau taith lawn.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.