Spatial Cortex oedd enillwyr carfan 2 – gan gyflwyno system monitro biomecanyddol y gellir ei gwisgo a oedd yn cyfuno technolegau perchnogol i fonitro lles staff. Byddai hyn yn helpu i wella lles staff, yn ogystal ag atal anafiadau yn y gwaith a salwch rhag digwydd.
Mae anafiadau codi a chario yn cyfrannu’n sylweddol at anafiadau amser-coll yn y diwydiant rheilffyrdd. Gan fod TrC wedi cymryd rheolaeth dros seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd yn ddiweddar, mae’n hanfodol bod camau angenrheidiol ar waith i gael gwared ar unrhyw anafiadau tebygol o ran codi a chario ac atal hynny.
Mae staff sy’n gweithio wrth ochr y cledrau yn gwneud gwaith cynnal a chadw ac mewn depos, sy’n codi, yn cario ac yn trin deunyddiau ac offer mewn symudiadau lletchwith, yn debygol o gael problemau iechyd/ystum y corff. Mae Spatial Cortex yn arbenigo ar ddatblygu technoleg y gellir ei gwisgo fel bod modd gwneud asesiadau meintiol a rhoi darlun mwy manwl er mwyn atal anafiadau codi a chario a mynd i’r afael ag anfanteision yr arferion presennol sy’n gysylltiedig ag asesu risg.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.