Mae EMU Analytics yn cynhyrchu gwybodaeth busnes real, amserol y mae modd gweithredu arni o ddata eang am leoliad mewn amser real.
Bu’n gweithio gyda Labordy TrC fel rhan o garfan 2 ein cyflymydd arloesi i ddatblygu ateb i helpu i roi gwybodaeth am dagfeydd, cynulliadau ac effeithiau posibl ar wasanaethau.
Cydweithiodd EMU Analytics â TrC i ddadansoddi a gweld data geo-ofodol, o gerbydau, pobl a systemau trafnidiaeth. Llwyddodd EMU i ddarlunio hyn a’i gyflwyno’n ôl i TrC, gan ei alluogi i lunio strategaethau a bod yn rhagweithiol wrth wneud newidiadau i wasanaethau lle bo angen.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.