Mae’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn ein helpu ni i gyd i gadw’n ddiogel rhag COVID-19, ond mae monitro a rheoli cydymffurfiad â’r protocolau hyn wedi bod yn broses anodd, sy’n cymryd llawer o amser ac yn cael ei gwneud â llaw.
Mae llwyfan Shapes AI yn gallu monitro a rheoli ymddygiad sy’n ddiogel o ran COVID yn awtomatig ar safleoedd mewn amser real. Bu’n cydweithio â ni fel rhan o garfan 2 ein Rhaglen Sbarduno Arloesi.
Mae Shapes AI wedi cynhyrchu MVP i gyfrifo a neilltuo ‘Sgôr Cadw Pellter Cymdeithasol’ er mwyn i Reilffyrdd TrC ddeall pa mor dda mae teithwyr a staff yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd drwy gydol y dydd, yr wythnos neu’r mis. Mae’n gweithio drwy ddadansoddi delweddau camera o’r radd flaenaf gydag algorithmau dysgu peirianyddol arloesol.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.