Ein Partneriaid
Dysgwch fwy am y gwahanol bartneriaid y byddwch yn ymwneud â nhw, o sefydliadau cyllido i fentora busnes, marchnata a mwy!
Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru i ‘Gadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu cyngor arbenigol, gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid a buddsoddiad wedi’i dargedu mewn seilwaith trafnidiaeth modern.
Yn 2018, dechreuodd Trafnidiaeth Cymru ar daith 15 mlynedd – i drawsnewid y rhwydwaith ledled Cymru a’r gororau, gyda gwasanaethau a cherbydau newydd, atebion arloesol, a rhaglen enfawr o fuddsoddi mewn gorsafoedd.
Er mwyn gwneud y daith hon yn llwyddiannus, roedd Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn deall pwysigrwydd arloesi. Roedden nhw’n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw wella eu prosesau presennol, gwella eu ffordd o feddwl yn fewnol er mwyn datrys problemau a gwella profiad cyfan Rheilffyrdd Cymru.
Cafodd Labordy Trafnidiaeth Cymru ei sefydlu i greu, i annog ac i feithrin diwylliant o arloesi ar draws Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yma.
Gan gefnogi a rheoli Labordy Trafnidiaeth Cymru, a gweithio o dan faner y Labordy, mae Alt Labs yn gyfrifol am weithio gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i nodi a blaenoriaethu meysydd problemus a datganiadau herio, i fynd i’r afael â nhw drwy bob carfan o’r labordy. Recriwtio busnesau newydd i’r rhaglen a helpu penderfynwyr allweddol Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn y broses o lunio rhestr fer. Dylunio, datblygu a chyflwyno’r rhaglen sbarduno, gan gynnwys cymorth ychwanegol i fusnesau newydd ar draws y broses o adeiladu a chynnig MVP.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth am ddim sy’n rhoi cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru. Gyda chanolfannau rhanbarthol ledled Cymru, maent yn cynnig cymysgedd o gefnogaeth sy’n amrywio o weithdai, gweminarau a chyngor unigol.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Busnes Cymru i ddarparu arweiniad a chyfleoedd cyllido i unrhyw un o’r busnesau yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn Labordy Trafnidiaeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Busnes Cymru a’u cyfleoedd cyllido ar gael yma.