Mae Cufflink yn gwmni seiberddiogelwch a chydymffurfiaeth reoleiddiol sy’n gwneud busnesau’n fwy diogel ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio drwy ddosbarthu eu data personol a sensitif a thrwyddedu mynediad, felly byddan nhw bob amser yn gwybod pwy’n union sy’n cael gafael ar eu data, o ble ac am ba reswm.
Maen nhw’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â thîm Trafnidiaeth Cymru a rhanddeiliaid i ddarparu adnodd storio a rhannu data sy’n fwy diogel i gwsmeriaid er mwyn sicrhau bod eu data cwsmeriaid yn fwy hygyrch, yn ddiogel ac yn cydymffurfio fel rhan o brosiect POC.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.