Accelerate your business growth in 3 months
Design, Develop and Launch a fit-for-purpose, customer focused product across Transport for Wales Rail and grow your business with our rail dedicated Accelerator Programme.
Apply for cohort 3 now.
Sut gallwn ni helpu eich busnes newydd
- ymchwilio i'r farchnad
- argraffiadau cwsmeriaid
- dylunio datganiad gwerth
- prototeipiau
- dilysu
- datblygu cynnyrch ymarferol lleiaf
- diwrnod arddangos
Mwy o wybodaeth
5


Pam cymryd rhan?
Bydd y cyfranogwyr yn cydweithio gyda mentoriaid ymhob rhan o’r sector arloesi a Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr arbenigedd yn helpu eich busnes cychwynnol i fireinio ac i ddatblygu cynnyrch sy’n addas ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd, ac yna i gyflwyno syniad i’r swyddogion gwneud penderfyniadau yn Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
Bydd contract gwaith yn cael ei roi i syniadau llwyddiannus, i ariannu gweddill y prosiect ac i greu cynnyrch neu wasanaeth sy’n cael effaith wirioneddol ar Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.
Manteision ein rhaglen
Mentora gan arbenigwyr o'r diwydiant
Drwy gydol y rhaglen 12 wythnos, byddwch yn cael eich mentora gan arbenigwyr ar draws y sector rheilffyrdd, yn ogystal ag arloesi, dylunio cynnyrch, marchnata a datblygu. Defnyddiwch yr argraffiadau i fireinio’r hyn rydych yn ei gynnig ac i ddysgu sut i gyflwyno eich busnes i swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau.
Cydweithio â Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid
Byddwch chi’n cael cyfle i weithio, cydweithredu a rhwydweithio â staff allweddol a swyddogion gwneud penderfyniadau o bob rhan o Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Cewch argraffiadau gan gwsmeriaid go iawn i helpu i ddatblygu eich datrysiadau a chewch adborth gan arbenigwyr o’r diwydiant rheilffyrdd.
Twf busnes
Os byddwch yn cwblhau ein rhaglen sbarduno yn llwyddiannus, gallwch gael cyfle i sicrhau contract gwaith gyda Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd hynny'n eich galluogi chi i barhau i ddatblygu a gweithredu eich datrysiadau, gan dyfu eich busnes ar yr un pryd.
Gweithle arloesol
Gallwch leoli eich busnes yn hwb arloesi trafnidiaeth mwyaf blaenllaw Cymru, Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu. Gyda’r offer, y dechnoleg a’r mannau cydweithio a chyfarfod mwyaf blaenllaw yn y diwydiant. Mae ein labordy arloesi yn rhoi’r lle gwaith perffaith lle gallwch chi sbarduno a thyfu eich busnes.
Mwy o wybodaeth
5
Ein partneriaid






Pam gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd?
Arddangos eich cynnyrch a’ch busnes i rwydwaith ehangach o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bod yn rhan o ddiwydiant a fydd yn rhoi cyfleoedd i’ch busnes newydd fod yn arloesol, i dyfu ac i fod yn llwyddiannus.
Mwy o wybodaeth
5