
Beth yw Rhaglen Sbarduno Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu?
Rydyn ni'n cynnal rhaglen sbarduno sy’n para 12 wythnos ac sy’n cynnwys gweithdai, sesiynau 1 i 1 gyda rhanddeiliaid, sesiynau mentora, cyfleoedd rhwydweithio gyda gweithredwyr rheilffyrdd allweddol a mynediad at ystod eang o adnoddau a gwybodaeth o bob rhan o’r sector rheilffyrdd a thrafnidiaeth.
Ar ddiwedd y 12 wythnos, bydd pob busnes sy’n rhan o’r rhaglen yn cyflwyno ei MVP (Cynnyrch Ymarferol Lleiaf) ar y diwrnod arddangos, gyda’r nod o sicrhau contract gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Yna, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael sicrwydd ariannol a mynediad at wybodaeth angenrheidiol er mwyn parhau i ddatblygu eu cynnyrch neu eu gwasanaeth i’w integreiddio ar draws Trafnidiaeth Cymru.
Ar gyfer pwy?
Rydyn ni eisiau i bob ymgeisydd fanteisio i’r eithaf ar y rhaglen fel y gall ei fusnes dyfu ac er mwyn i Trafnidiaeth Cymru barhau i wella a darparu’r lefelau gorau posibl o brofiad i gwsmeriaid a theithwyr.
Mae Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu ar gyfer unrhyw un o'r canlynol sydd â chynnyrch neu syniadau a allai fod yn fanteisiol i'r sector rheilffyrdd;
- Entrepreneuriaid
- Busnesau cychwynnol
- Busnesau mawr

Ydw i’n gymwys ar gyfer y rhaglen?
Os oes unrhyw un o’r canlynol (nid pob un o reidrwydd) yn berthnasol i chi neu eich busnes, rydyn ni'n meddwl y byddech chi’n ymgeisydd gwych ar gyfer y rhaglen:
- Rydych chi’n fusnes cychwynnol neu'n entrepreneur ym maes technoleg, sydd wrthi’n gweithio ar syniad (cynnyrch neu wasanaeth)
- Rydych chi'n fusnes mawr yn y sector trafnidiaeth/rheilffyrdd
- Mae’r meysydd o ddiddordeb yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i; systemau archebu, masnachu ar drenau, hysbysebu, gwasanaeth cwsmeriaid, profiad cwsmer o un pen i’r llall, CRM a theyrngarwch cwsmeriaid, arloesi mewn seilwaith neu effeithlonrwydd gweithredol.
- Mae gennych gynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes yr ydych yn teimlo y gallech ei addasu i wella profiad y cwsmer a phrofiad teithwyr ar draws y rheilffyrdd
- Mae gennych gynnyrch go iawn, neu rydych yn datblygu cynnyrch go iawn, a allai fod o fudd i Trafnidiaeth Cymru a phrofiad y teithiwr yn eich barn chi
Os oes gennych gynnyrch, gwasanaeth, neu syniad a allai hybu gwelliant ar reilffyrdd Cymru drwy wella profiad y cwsmer, gwella diogelwch teithwyr neu drwy wella prosesau busnes ac effeithlonrwydd – bydden ni'n falch o glywed gennych chi.
Pam ymuno?
I gael eich dilysu gan y diwydiant
Bydd ein rhaglen yn helpu eich cynnyrch neu wasanaeth i gael ei ddilysu gan y diwydiant. Byddwn yn rhoi cyfle i chi i siarad a chydweithio â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant, i ddilysu unrhyw ragdybiaethau o ran y cynnyrch ac i ddeall y broses gaffael yn well a pha mor ymarferol fyddai eich syniad ar draws sector y rheilffyrdd.
Datblygu eich busnes
Bydd modd i chi uwchraddio a gwella sgiliau eich gwybodaeth drwy hyfforddiant, gweithdai a mentora wrth feddwl am ddylunio, dylunio cynnyrch a hyfywedd masnachol gyda’r gweithdai niferus fydd yn cael eu cyflwyno dros y rhaglen arloesi 12 wythnos.
Gweithle arloesol
Mae gan LgTC labordy arloesi pwrpasol yng Nghasnewydd. Bydd ymgeiswyr yn cael defnydd llawn o'r gweithle arloesol hwn yn ystod y rhaglen 12 wythnos, a bydd y rhai sy’n llwyddo i gyflwyno eu syniad i Trafnidiaeth Cymru ar ddiwedd y rhaglen 12 wythnos yn cael parhau i weithredu eu busnes o'r lleoliad hwn.
Dysgu gan Arweinwyr Arloesi
Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai arloesi gyda rhai o arweinwyr yn y maes Arloesi yn y DU. Bydd ein rhaglen yn cyflwyno gweithdai ar bynciau yn cynnwys, dylunio datganiad gwerth, meddylfryd dylunio, gweithdai gwibio, cwsmeriaid ac UX, dylunio gwasanaethau a mwy.
Mynediad at arbenigwyr rheilffyrdd
Cydweithio a rhwydweithio â rhai o’r arbenigwyr mwyaf dylanwadol a phrofiadol ar draws Trafnidiaeth Cymru, o uwch reolwyr, peirianwyr, timau marchnata a masnachol i helpu i gael gwell dealltwriaeth o sut i deilwra eich cynnig a pha effaith y gallai ei chael yn y farchnad.
Tyfu eich busnes
Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn golygu y byddwch yn gallu sicrhau contract masnachol gan Trafnidiaeth Cymru, gan roi’r cyllid angenrheidiol i chi gwblhau eich prosiect a lansio eich cynnig ar draws ein busnes.
Cwestiynau cyffredin
Oes gennych chi gwestiwn? Edrychwch ar ein cwestiynau mwyaf cyffredin isod.
Sut mae gwneud cais?
Yn syml, cliciwch y botwm “gwneud cais” ar y safle, neu glicio yma, ac fe gewch eich tywys i dudalen ymgeisio F6S. F6S yw llwyfan mwyaf y byd ar gyfer cysylltu sylfaenwyr â buddsoddwyr, sbardunwyr a deoryddion, a dyna sydd wrth wraidd ein proses ymgeisio.
Ble mae’r rhaglen wedi'i lleoli?
Caiff y rhaglen ei chynnal yn ein Canolfan Arloesi benodol yn adeilad y Platfform yng Nghasnewydd.
Beth yw’r meini prawf i wneud cais?
Pwy sy'n rhedeg y Rhaglen Sbarduno hon?
Mae’r rhaglen sbarduno yn fenter gan Trafnidiaeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Alt Labs. Mae Alt Labs yn gwmni Arloesi pwrpasol sy'n cynnal rhaglenni arloesi a sbarduno, er mwyn helpu sefydliadau corfforaethol i weithredu atebion newydd ac arloesol a ddatblygir gan fusnesau cychwynnol darbodus ac ystwyth. Gallwch ddysgu mwy am Alt Labs yn y fan yma.
Pa mor hir mae’r rhaglen yn para?
Mae ein rhaglen arloesi yn para 12 wythnos. Cynhelir diwrnod arddangos yn wythnos 12 o'r rhaglen.
Pa mor aml y bydd angen i mi fod yn y Ganolfan Arloesi?
Mae lle, os oes angen, i chi weithio o’n hardal ddeori am y 12 wythnos gyfan. Os ydych chi'n fusnes wedi'i sefydlu, bydd angen i chi fod ar gael i fynd i’n canolfan 1 diwrnod yr wythnos i gymryd rhan mewn sesiynau arloesi.
A ydych chi'n cymryd ecwiti yn fy musnes?
Na. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dod yn gystadleuwyr ac yn cymryd rhan yn y rhaglen am ddim. Ar ddiwedd y 12 wythnos, bydd busnesau llwyddiannus yn cael contract masnachol os yw eu datrysiad yn ymarferol ac yn sicrhau budd i Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.