
Mae system dadansoddi testun Wordnerds sydd wedi’i phweru gan AI yn helpu brandiau i ddeall gwir lais eu cwsmeriaid. Mae ei atebion yn awtomeiddio’r ddealltwriaeth o iaith – ar raddfa, waeth beth fo’r eirfa, a oes coegni neu a oes defnydd helaeth o emojis 🤓
Maen nhw’n rhoi’r adnoddau i dimau gwybodaeth i gasglu gwybodaeth y gellir gweithredu arni o’r nifer o sianeli cyfathrebu â chwsmeriaid, er mwyn sicrhau gwelliannau sylweddol ym Mhrofiad Cwsmeriaid.
Bu Wordnerds yn gweithio gyda Thimau Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru ar draws carfan 2 Rhaglen Sbarduno Arloesi Labordy TrC i roi un darlun holistaidd o lais eu cwsmeriaid – gan gysylltu data o adborth cymdeithasol, cwynion, arolygon a rhwydweithiau byw. Gan ddefnyddio AI sydd ar flaen y gad ac ieithyddiaeth draddodiadol, bydd Wordnerds yn helpu’r tîm Profiad Cwsmeriaid i roi gwybodaeth ystyrlon i’r bobl y mae’n fwyaf pwysig iddynt.
Busnesau newydd gwych eraill
Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.