
Mae Ingram Networks Ltd, sydd wedi’i leoli yng Nghanol Casnewydd, yn datblygu system gyfathrebu gyflym iawn ar drenau i drawsnewid WiFi i deithwyr.
Bydd y dechnoleg yn addas ar gyfer pob amgylchedd (gwledig a threfol), a bydd yn gwella profiad y cwsmer, ac yn gwella cynhyrchiant y rheini sy’n dymuno gweithio yn ystod eu taith.
Yn ystod rhaglen sbarduno Trafnidiaeth Cymru, mae Ingram Networks yn bwriadu bod yn rhan o’r diwylliant arloesol sy’n cael ei feithrin gan TrC. Bydd yn cysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac arweinwyr barn, ac yn cael cipolwg gwerthfawr ar sut byddai cynnyrch gwirioneddol dda yn edrych o safbwynt Cwmni Trên.
Busnesau newydd gwych eraill
Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.