Mae Yoello yn llwyfan talu sy’n ceisio tarfu ar y system dalu bresennol drwy ddefnyddio’r ddeddfwriaeth bancio agored (PSD2) i gael gwared ar y dynion canol, a dod â masnachwyr a chwsmeriaid yn nes at ei gilydd.
Mae ei dechnoleg labeli gwyn yn defnyddio Codau QR i lansio datrysiad di-ap a fydd yn darparu profiad symlach i gwsmeriaid.
Bu Yoello’n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru yn ystod carfan 2 i helpu i symleiddio’r system archebu ar gerbydau drwy ei dechnoleg symudol i fynd i’r afael â chyfyngiadau cymdeithasol drwy roi gwasanaeth bwrdd digyswllt ar waith.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.