Mae You. Smart. Thing. yn mynd i’r afael â’r her o gynnig gwasanaeth sy’n cynllunio teithiau o ddrws i ddrws. Mae’n ystyried ei hun yn arbenigwr ar reoli cyrchfannau sy’n canolbwyntio ar ymwelwyr.
Mae ei feddalwedd “Cynorthwyydd Teithio” yn arwain pobl i leoliadau a digwyddiadau yn ‘y ffordd glyfar’, gan wella archebion, profiad cwsmeriaid ac ymweliadau rheolaidd a lleihau gorbenion rheoli ymholiadau sy’n ymwneud â theithio.
Gan adeiladu ar y gwasanaeth ‘Cynorthwyydd Teithio’, datblygwyd MVP You.Smart.Thing i helpu cwsmeriaid Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i deithio o ddrws i ddrws drwy gyfuno eu dewisiadau o ran teithiau, llwybrau pwrpasol, data trafnidiaeth aml-foddol, diweddariadau amser real, a darparu cynllun teithio ar drenau wedi’i deilwra’n bersonol ar gyfer cwsmeriaid.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.