Mae RazorSecure yn cynnig rhwydwaith hyblyg, hybrid a dull gweithredu sy’n seiliedig ar letywyr ar gyfer seiberddiogelwch rheilffyrdd. Mae’n cael ei bweru gan ddysgu peirianyddol ac mae wedi’i ddylunio i ddiogelu cerbydau, signalau a systemau seilwaith.
Bu’n cydweithio â Trafnidiaeth Cymru ar garfan 2 Labordy’r Cyflymydd Arloesi i ddod o hyd i ateb ar gyfer trenau TrC ar sail gyfyngedig drwy integreiddiad presennol ar lwybryddion Icomera y mae TrC yn eu defnyddio ar gyfer cysylltedd WiFi.
Ar sail y data y gallai RazorSecure ei gasglu, dywedodd y byddai’n gallu dangos lefel bresennol y bygythiadau seiber ar rwydwaith TrC. Byddai hyn yn rhoi gwybod i TrC am werth ateb o’r fath pan fydd y fflyd o drenau digidol newydd yn dechrau, a photensial yr adnoddau rheoli asedau i arbed amser ac arian, a sicrhau bod set ehangach o systemau gweithredol yn fwy amlwg.

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.