Mae Route Konnect yn datblygu rhwydweithiau synwyryddion Rhyngrwyd Pethau i olrhain symudiadau traffig a thagfeydd yn fwy manwl mewn amser real. Buont yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru yn ystod carfan 2 y sbardun arloesi i ddatrys y broblem o gyfrif teithwyr yn ddienw a’u holrhain mewn trenau a gorsafoedd ar ran Rheilffyrdd TrC.
Gellir darparu’r wybodaeth hon mewn amser real i ddarparu data byw i’r rheng flaen ac i gwsmeriaid, gan ganiatáu i deithwyr ar drenau ac mewn gorsafoedd wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch eu teithiau.
Roedd eu MVP yn cynnwys cyfrif teithwyr, canfod faint o seddi sy’n llawn, yn ogystal â gwirio pellter cymdeithasol a chydymffurfio â’r gofyniad i wisgo masg gan deithwyr. Byddai eu hateb yn caniatáu i orsafoedd brofi newidiadau i gynllun gorsaf er mwyn gwella llif y teithwyr gyda gwybodaeth amser real. Cafodd Route Konnect ganmoliaeth fel rhan o garfan 2 am berfformiad rhagorol ar draws y rhaglen!

Busnesau newydd gwych eraill

Dysgwch fwy am y busnesau newydd eraill sydd wedi cael llwyddiant ar ein rhaglen cyflymu.