Ddydd Iau 17 Mawrth, fe wnaethon ni lansio Carfan 4 ein Rhaglen Sbarduno Arloesi! 

Rydyn ni’n gyffrous iawn! 

Roedd Carfan 1, 2 a 3 yn llwyddiant mawr wrth i ni helpu i gyflymu 5 o fusnesau newydd hyd at y camau trafod gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. 

Mae gennym gyfres newydd o ddatganiadau herio a 3 busnes newydd yn awyddus i’w herio. 

Gadewch i ni edrych ar bwy fydd yn cymryd rhan yng Ngharfan 4.

 

Y Garfan 

  • Porter Travel  - Dyma gydymaith teithio digidol sydd wedi’i ddylunio i wneud teithio’n ddidrafferth o’r cam darganfod ac archebu, i brofi a mwynhau. Maen nhw’n canolbwyntio ar gysylltu eu haelodau â’r dewisiadau teithio gorau posibl iddyn nhw.  
  • Cufflink  – Mae Cufflink yn gwneud busnesau’n fwy diogel ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio drwy ddosbarthu eu data personol a sensitif a thrwyddedu mynediad, felly byddan nhw bob amser yn gwybod pwy’n union sy’n cael gafael ar eu data, o ble ac am ba reswm. 
  • Clickflow – Mae Clickflow yn gwmni technoleg sy’n helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth drwy ddefnyddio atebion gwybodaeth busnes.  

 Y Rhaglen  

Mae’r rhaglen yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, o syniadau i sganio rhanddeiliaid, profi defnyddwyr a datblygu cynnyrch.  

 Bydd y busnesau newydd yn dechrau gyda syniadau ac, yn ystod y rhaglen 11 wythnos, byddan nhw wedi datblygu MVP i’w gyflwyno i randdeiliaid TrC.  

 

Dywedodd Michael Davies, rheolwr argraffiadau ac arloesi TrC: “Rydyn ni’n hapus iawn â safon uchel y syniadau sydd wedi cael eu cyflwyno i ni yn ystod y rhaglen hyd yma. Mae Labordy Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu i gwmnïau lleol, Cymreig, a’r rhai ymhellach i ffwrdd, dyfu, datblygu a chyflymu eu busnes. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu a chyflymu unrhyw syniadau newydd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon i brofiadau teithwyr ar draws ein rhwydwaith. Mae hynny’n bwysig iawn.” 

 Dywedodd Imran Anwar, Prif Swyddog Gweithredol Alt Labs a Chyfarwyddwr Rhaglen Labordy TrC: “Mae’n fraint fawr cael gweithio gyda Cufflink, Porter Travel a Clickflow ar Garfan 4 Labordy TrC. Mae hefyd yn newyddion gwych ein bod yn parhau i ddatblygu ecosystem busnesau newydd yng Nghymru a’u helpu i ddatblygu eu gwasanaeth a’u technoleg i weithio yn TrC. Rydyn ni’n bwriadu parhau â’r momentwm hwn wrth i garfan 4 wynebu heriau o ran data mawr, delweddu data, cynllunio teithio wedi’i gysylltu a seiberddiogelwch. Byddwch yn cael cyfle i weld yr allbwn yn fyw gan y garfan yn Niwrnod Arddangos Labordy TrC a gynhelir ar 26 Mai 2022 yn y Depot yng Nghaerdydd.” 

 

Dilyn y Rhaglen  

Trwy gydol y rhaglen byddwn yn dangos proffil cwmnïau wrth iddyn nhw ddechrau eu busnes newydd yn https://tfwlab.wales/

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ewch i https://twitter.com/WalesLab