Bydd rhaglen sbarduno arloesi Trafnidiaeth Cymru yn cynnal ei digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf yn y diwydiant technoleg yn nes ymlaen y mis hwn. 

Cafodd Labordy gan TrC ei datblygu gydag Alt Labs a’i lansio ym mis Gorffennaf 2020 ac mae’n gweld arloeswyr busnes ledled Cymru a’r Gororau yn datblygu eu syniadau i wella diogelwch, perfformiad a phrofiadau cwsmeriaid ar y rheilffordd. 

Yn dilyn tair rhaglen 11 wythnos lwyddiannus a gynhaliwyd ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, mae Labordy TrC yn barod ar gyfer ei digwyddiad mwyaf eto yn un o fannau mwyaf arloesol Caerdydd, sef y Depot. 

Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal ddydd Iau 26 Mai o 5.30pm ymlaen a bydd tri chwmni technoleg yn dangos eu syniadau’n uniongyrchol i uwch reolwyr arloesi TrC ac arweinwyr y diwydiant. 

Dywedodd Michael Davies, Rheolwr Arloesi a Syniadau Trafnidiaeth Cymru: “Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus o raglen Labordy Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n falch iawn o allu mynd â hi i’r lefel nesaf drwy gynnal ein digwyddiad cyntaf wyneb yn wyneb. 

“Mae safon y syniadau gan ein tri grŵp blaenorol wedi bod yn uchel iawn, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed yr atebion mae ein carfan ddiweddaraf wedi’u datblygu dros y tri mis diwethaf. 

“Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle i gwrdd yn uniongyrchol ag uwch gydweithwyr TrC, felly bydden ni wrth ein bodd yn croesawu cynifer o bobl â phosibl o’r diwydiant technoleg yn y DU.” 

Mae un ar ddeg o gwmnïau’n cymryd rhan yn y digwyddiad y mis hwn; 

Busnesau Newydd Carfan 4: 

Porter Travel – Dyma gydymaith teithio digidol sydd wedi’i ddylunio i wneud teithio’n ddidrafferth o’r cam darganfod ac archebu, i brofi a mwynhau. Maen nhw’n canolbwyntio ar gysylltu eu haelodau â’r dewisiadau teithio gorau posibl iddyn nhw. 

Cufflink – Mae Cufflink yn gwneud busnesau’n fwy diogel ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio drwy ddosbarthu eu data personol a sensitif a thrwyddedu mynediad, felly byddan nhw bob amser yn gwybod pwy’n union sy’n cael gafael ar eu data, o ble ac am ba reswm. 

Clickflow – Mae Clickflow yn gwmni technoleg sy’n helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth drwy ddefnyddio atebion gwybodaeth busnes. 

Bydd cyfle hefyd i glywed gan fusnesau carfan un, dau a thri, sef: 

Busnesau Carfan 3: 

RoboK – Mae RoboK yn datblygu atebion cyfrifiadurol effeithiol sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i ddemocrateiddio diogelwch mewn trafnidiaeth.  

Qubopt – Mae Qubopt yn cynnig llwyfan dysgu peirianyddol cod isel sy’n caniatáu i arbenigwyr parth ddefnyddio efeilliaid digidol, profi damcaniaethau a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl yn gyflym.  

Jnction – Mae JNCTION yn datblygu cynllunydd teithiau aml-ddull ac ap cymorth i deithwyr er mwyn ceisio lleihau straen i deithwyr ag Awtistiaeth ac Anableddau Cudd wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  

Mae Utility AR – Mae Utility AR yn gweithio gydag arloeswyr mewn sectorau diwydiannol fel Gweithgynhyrchu, Fferyllol, Cyfleustodau a Chanolfannau Data i ddatgloi potensial rhaglenni Realiti Estynedig.  

Busnesau Carfan 2: 

Spatial Cortex – Mae Spatial Cortex yn system monitro biomecanyddol y gellir ei gwisgo sy’n cyfuno technolegau perchnogol. 

Route Konnect – Dyma dechnoleg Olrhain a Chyfrif sy’n gallu cofnodi symudiadau cerddwyr a theithwyr. 

Busnesau Carfan 1: 

Briteyellow Limited – Mae Briteyellow Limited yn darparu atebion mapio dan do, canfod y ffordd a rheoli asedau i helpu gweithredwyr trafnidiaeth i greu mannau deallus. Maen nhw’n defnyddio rhith-realiti a realiti estynedig i wella profiad y defnyddiwr a rhyddhau refeniw newydd. 

PassageWay – Mae Passageway yn troi totemau, ciosgau a sgriniau cysylltiedig yn arwyddion canfod y ffordd digidol a thrafnidiaeth amser real. Mae arwyddion PassageWay yn dangos gwybodaeth symudedd aml-ddull yn lleol ac yn rhoi diweddariadau amser real. Mae hyn yn galluogi gweithredwyr i roi gwybodaeth i gwsmeriaid presennol a chwsmeriaid newydd. 

Dywedodd Imran Anwar, Prif Swyddog Gweithredol Alt Labs: “Mae’r Diwrnod Arddangos yn garreg filltir enfawr i Labordy TrC, lle rydyn ni’n arddangos 11 o fusnesau newydd arloesol sydd ag atebion ymarferol i rai o’r heriau yn y sector rheilffyrdd sy’n newid o hyd. 

“Bydd y cynnyrch a’r gwasanaethau mae’r busnesau newydd hyn wedi gweithio arnyn nhw yn y Labordy ers Carfan 1 yn mynd ymlaen i wella profiadau teithwyr a chefnogi’r gwahanol adrannau yn TrC. 

“Drwy’r 4 rhaglen arloesi, mae’r busnesau newydd wedi cael mynediad uniongyrchol at ddata, arbenigwyr pwnc, gorsafoedd, trenau a rhanddeiliaid allweddol sydd wedi eu galluogi i ddatblygu’r atebion sydd ganddyn nhw heddiw ar gyfer TrC. 

“Mae tîm Arloesi Alt Labs yn hynod freintiedig o fod wedi gweithio gyda’r busnesau newydd arloesol hyn a bod yn rhan o’u taith ac yn falch o fod wedi cyflwyno’r 4 rhaglen lwyddiannus ar gyfer TrC” 

“Mae’n dilyn cyfnod o fentora pwrpasol gan arbenigwyr busnes o bell ac yng nghyfleuster modern TrC yng Nghasnewydd. 

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i Tocynnau Diwrnod Arddangos Carfan 4 Labordy Trafnidiaeth Cymru, dydd Iau 26 Mai 2022 am 17:30 | Eventbrite 

  

Bydd agenda ac amserlen lawn yn cael eu rhyddhau cyn bo hir. Bydd y digwyddiad yn cynnwys: 

Croeso gan Imran Anwar, Prif Swyddog Gweithredol Alt Labs 

Araith agoriadol gan Trafnidiaeth Cymru 

Syniadau’r Busnesau Newydd 

Dyfarniadau 

I gael rhagor o wybodaeth am raglen sbarduno Labordy Trafnidiaeth Cymru, ewch i: https://tfwlab.wales/