Proses ymgeisio ar gyfer rhaglen arloesi Lab gan Trafnidiaeth Cymru nawr ar agor

Mae gwaith recriwtio wedi dechrau ar gyfer y bedwaredd ran o raglen arloesi blaenllaw Cymru ar gyfer y rheilffyrdd.

Rhaglen sbarduno arloesi dros gyfnod o 12 wythnos yw Lab Trafnidiaeth Cymru sy’n cynnig cyfle cyffrous i arloeswyr busnes ddatblygu syniadau i wella profiadau defnyddwyr rheilffyrdd.

Mae tri chynllun llwyddiannus eisoes wedi’u cwblhau ers ei lansio ym mis Ionawr 2020, ac mae’r broses recriwtio wedi dechrau ar gyfer y pedwerydd grŵp o gwmnïau technoleg creadigol newydd o bob cwr o Gymru a gweddill y DU.

Ar ôl i’r broses recriwtio ddod i ben, bydd y busnesau newydd yn gweithio’n agos gyda TrC i gael eu mentora’n benodol gan arbenigwyr busnes i ddatblygu eu cynnyrch a’u datblygiadau arloesol, gan baratoi ar gyfer y diwrnod arddangos olaf lle byddant yn cyflwyno eu syniadau i wneuthurwyr penderfyniadau blaenllaw TrC.

Yna, bydd yr enillwyr yn cael arian i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach yn ogystal â help i gyflawni rheilffyrdd y dyfodol.

Fel y rowndiau recriwtio blaenorol, bydd y rhaglen yn cael ei darparu o bell, gan ganiatáu i fusnesau newydd gymryd rhan ar-lein.

Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi llwyddo i helpu dros 30 o fusnesau newydd i ddatblygu eu syniadau drwy dair carfan gyntaf y rhaglen, gyda 24 o’r rhain yn cyrraedd yr adolygiad achos busnes.

Er nad yw TrC yn gallu mynd ar drywydd datblygiadau arloesol pob cwmni newydd, mae’r cyngor, yr arweiniad a’r cymorth i weithio gyda thîm Alt Labs ac arbenigwyr busnes wedi bod yn amhrisiadwy o ran datblygu cynnyrch y cwmnïau hynny, ar brydiau mae’n dal i arwain at gyfleoedd i weithio gyda’i gilydd er nad yw wedi cael ei ddewis ar ddiwrnod arddangos.

Mae enillwyr yr ail garfan, Spatial Cortex, wedi parhau i weithio gyda TrC ar eu technoleg MOVA sy’n ceisio dadansoddi ac edrych ar adnoddau i leihau’r risg o anafiadau cyhyrysgerbydol wrth wneud gwaith trac.

Dywedodd Michael Davies, Rheolwr Arloesi a Syniadau TrC: “Mae safon y cwmnïau sydd wedi cyflwyno yn ystod y tair rownd flaenorol o recriwtio wedi bod yn eithriadol o uchel, felly rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at yr hyn y bydd y grŵp diweddaraf o arloeswyr technolegol yn ei gynnig.

“Byddwn yn gofyn cwestiynau i’r busnesau newydd fydd yn adlewyrchu rhai o heriau’r byd go iawn rydyn ni’n eu hwynebu o ran seilwaith a diogelwch, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd newydd o fynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi’u hwynebu yn ddiweddar: sut rydyn ni’n annog pobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau arni.”

Os hoffech chi wneud cais i fod yn rhan o bedwaredd garfan y rhaglen arloesi, gallwch wneud hynny yma: https://www.f6s.com/lab-by-transport-for-wales-cohort-4/