Ddydd Gwener 3 Medi 2021, cawsom gyfle i ddangos y datblygiadau, y cynnyrch a’r atebion gwych gan ein busnesau newydd yng Ngharfan 3 TrC.

Roedd ein digwyddiad diwrnod arddangos ar-lein yn benllanw ein rhaglen sbarduno arloesi carfan 3, a gynhaliwyd mewn partneriaeth rhwng Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a thîm o arbenigwyr arloesi sy’n rhedeg Labordy Trafnidiaeth Cymru, Alt Labs.

Fe wnaeth y rhaglen sbarduno hon helpu’r busnesau newydd i ddatblygu ateb, a fyddai’n gallu gwella rheilffyrdd Cymru, ac ennill contract gwaith gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

O’r 5 busnes newydd a gymerodd ran, aeth 4 ymlaen i drafodaethau masnachol gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Yma, rydyn ni’n mynd i ddadansoddi pob un o’r busnesau newydd gwych hyn a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn ystod y rhaglen.

Cyflwyno’r enillydd...

RoboK Vision oedd enillydd y rhaglen, gan sicrhau contract gyda TrC.

Mae RoboK Visionyn datblygu atebion cyfrifiadurol effeithiol sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i ddemocrateiddio diogelwch mewn trafnidiaeth. Yn ystod ein Rhaglen Sbarduno Arloesi, datblygodd RoboKbrawf o gysyniad mewn ffordd ystwyth a llwyddodd i gael mynediad at y cyfoeth o brofiadau masnachol a chynnyrch sydd ar gael yn Rheilffyrdd TrC. Eu nod oedd deall ymddygiad defnyddwyr wrth groesfannau rheilffyrdd drwy gynnig datrysiad meddalwedd dadansoddi seiliedig ar weledigaeth effeithlon er mwyn galluogi TrC i; ddeall ymddygiad defnyddwyr go iawn, cyflawni mesurau wedi’u targedu a mesurau wedi’u seilio ar wybodaeth a chaniatáu gwelliant parhaus gydag ateb pŵer isel symudol ac ailadroddol.

Mae rhagor o wybodaeth am RoboK Vision ar gael yma >  https://robok.ai/

Mae 4 busnes newydd arall wedi symud ymlaen i drafodaethau masnachol gyda Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Quinean Systems –

Mae Quinean Systems yn cynnig llwyfan dysgu peirianyddol cod isel sy’n caniatáu i arbenigwyr parth ddefnyddio efeilliaid digidol, profi damcaniaethau a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl yn gyflym. Roedden nhw’n gweithio ochr yn ochr â’r tîm rheoli, cynhyrchu a pherfformiad yn TrC i’w helpu i wneud y gorau o ddyrannu a chynllunio adnoddau, gan helpu i wella’r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud mewn ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl a phrofiadau cwsmeriaid. 

Dysgu mwy > https://quinean.com

JNCTION -- 

Yn ystod y diwrnod arddangos, fe wnaeth JNCTION gyflwyno ei ap Aubin, sef ap newydd ar gyfer cynllunio teithiau wedi’i ddylunio gyda’r gymuned awtistig, ar gyfer y gymuned awtistig. Roedden nhw’n dangos y manteision i deithwyr o ddefnyddio Aubin, gan gynnwys; mynediad haws at y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, llai o bryder a mwy o hyder. Roedden nhw hefyd yn dangos sut y bydd TrC yn gallu defnyddio’r ap i wella’r hyn maen nhw’n ei gynnig i gwsmeriaid yn barhaus.

Dysgu mwy > https://jnction.uk/

Utility AR –

Mae Utility AR yn gweithio gydag arloeswyr mewn sectorau diwydiannol fel Gweithgynhyrchu, Fferyllol, Cyfleustodau a Chanolfannau Data i ddatgloi potensial rhaglenni Realiti Estynedig. Yn ystod ein diwrnod arddangos byw, dangosodd Utility AR sut gall eu hateb ganiatáu i TrC oresgyn eu heriau drwy ddefnyddio atebion hyfforddi realiti estynedig.  

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.utilityar.com/

Stofl –  

Rhoddodd Stofl y gallu i adnabod yr elfennau problemus o ran monitro ansawdd aer ar drenau a gorsafoedd er mwyn helpu i deithio ddychwelyd yn ôl i’r arfer a chyfiawnhau’r newid i gerbydau sy’n fwy modern a glanach. Roedden nhw’n gallu prototeipio ac arddangos eu monitor ansawdd aer LoRaWAN sy’n defnyddio batri mewn 10 wythnos yn unig!

Mae rhagor o wybodaeth am Stofl yma > https://www.stofl.net/

Ein Carfan Nesaf 

Ar hyn o bryd rydyn ni’n recriwtio ar gyfer Carfan 4 rhaglen sbarduno Labordy Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2022.

Ymunwch â’n rhestr bostio a bod y cyntaf i glywed am ein proses recriwtio Carfan 4 sy’n cael ei chynnal fis Hydref eleni > https://tfwlab.wales/sign-up/

Gallwch weld ein diwrnod arddangos Carfan 3 isod