Mae unig raglen arloesi benodol Rheilffyrdd Cymru wedi rhoi cychwyn swyddogol i’w hymgyrch recriwtio gyntaf, a gallech chi fod yn rhan o hynny.

Mae ‘Lab gan Trafnidiaeth Cymru’ yn Rhaglen Sbarduno Arloesi 12 wythnos i ddangos y cwmnïau newydd gorau a mwyaf arloesol yng Nghymru.

Bydd ein Rhaglen Sbarduno Arloesi yn helpu i gynyddu a chyflymu nifer y cwmnïau technoleg newydd a’u cael yn barod ar gyfer gwneud cynigion o fewn 12 wythnos. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gyfrwng cyfres o weithdai arloesi, dylunio cynnyrch a chynnig gwerth, ochr yn ochr â mentora a hyfforddiant ychwanegol.

Ar ddiwedd y rhaglen 12 wythnos, bydd ymgeiswyr yn cynnig eu datrysiadau busnes i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael contract gwaith a bydd eu datrysiad yn cael ei lansio wedyn ar draws rhwydwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Os gallai eich cwmni newydd chi elwa o hyn - rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Rydyn ni’n chwilio am gwmnïau newydd sydd naill ai â syniad arloesol neu gynnyrch yng ngham cynnar ei ddylunio. Fel dewis arall, bydd busnesau sydd eisoes â datrysiad ar y farchnad, y gellir ei addasu ar gyfer y sector rheilffyrdd, yn ymgeiswyr perffaith ar gyfer ein Rhaglen Arloesi. Boed yn feddalwedd neu galedwedd, os yw’n arloesol a gyda photensial i gael effaith bositif ar Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a’u teithwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Mae Grŵp 1 Lab gan Trafnidiaeth Cymru yn lansio ym mis Tachwedd. O ganlyniad, rydym yn chwilio am gwmnïau technoleg newydd creadigol, arloesol a brwd i ymgeisio. Fel rhan o’r rhaglen bydd cyfle i chi fwynhau gweithio o’n labordy arloesi sydd wedi’i chyflwyno’n ddiweddar yng Nghasnewydd.

Bydd ein lleoliad yn rhoi popeth y byddwch chi a’ch tîm ei angen i helpu i ddatblygu a sbarduno eich busnes. Mae'r labordy’n cynnwys technoleg flaenllaw y diwydiant, mannau gwaith a gofod cydweithredu, fel bod yr amgylchedd gwaith yn berffaith i’ch tîm.

Am fwy o wybodaeth am ein Rhaglen Sbarduno, ei manteision ac esboniad o beth mae’n ei olygu, edrychwch ar y dudalen yma. Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am ‘Lab gan Trafnidiaeth Cymru’ a’r rhesymau tu ôl i’w chyflwyno, edrychwch ar ein tudalen amdanom ni.

Mae'r recriwtio ar agor nawr ac mae gennych chi tan Hydref 28ain i ymgeisio. Mae hwn yn gyfle gwych i sbarduno a thyfu eich busnes, yn ychwanegol at gael eich cyflwyno i’r diwydiant rheilffyrdd cyffrous gwerth biliynau o bunnoedd.

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy borthol F6s: https://www.f6s.com/tfwlab/apply