Mae’n flwyddyn newydd ac mae’r tîm arloesi yn Labordy Trafnidiaeth Cymru yn awyddus i fwrw ymlaen â syniadau newydd ac ysbrydoledig. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno’r rhaglen ‘Cinetig’; cyfres o sesiynau rhyngweithiol sydd â’r nod o fanteisio ar wybodaeth a phrofiad o bob rhan o’n rhwydwaith.

Dyma eich cyfle chi i ddysgu dulliau newydd o ddatrys problemau, cwrdd â chydweithwyr o adrannau eraill, ac archwilio methodoleg o feddwl am ddylunio.

Mae’r sesiwn mewnol yn ddigwyddiad mewnol dros deuddydd sy’n gofyn y cwestiwn: ‘Sut ydyn ni’n gwneud gorsafoedd yn gyrchfan?’

Rydyn ni’n chwilio am 30 o bobl frwdfrydig o bob adran, a lefel o fewn y busnes, i greu chwe thîm cymysg o bump. Yr her yw meddwl am ateb neu fodel arloesol sy’n helpu i ateb y cwestiwn ynghylch sut rydyn ni’n troi gorsafoedd yn gyrchfannau. Mae rhagor o fanylion ar gael isod:

Cynhelir y digwyddiad ‘Cinetig’ dros ddau ddiwrnod, 1 a 2 Mawrth, yn ystod oriau swyddfa, ym Mhencadlys Trafnidiaeth Cymru. Dan arweiniad tîm arbenigol o arbenigwyr arloesi, bydd pob tîm yn cael cyfle i gyflwyno eu syniad terfynol i banel o feirniaid, a fydd yn dyfarnu gwobrau am dalebau gwobrwyo ar gyfer y tri syniad gorau.

Wrth siarad am lansio 'Cinetig’, dywedodd Rheolwr Arloesi a Syniadau TrC, Michael Davies: “Mae hwn yn gyfle gwych i gydweithwyr ar draws TrC gymryd rhan mewn arloesi a helpu i greu syniadau newydd ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni wedi dewis gorsafoedd, sydd â staff a heb staff, gan eu bod fel ffenestr siop i gwsmeriaid ac rydyn ni wir eisiau gweld syniadau sy’n gallu helpu i gynyddu profiadau cwsmeriaid a chydweithwyr, nawr ac yn y dyfodol.”

Os hoffech chi gymryd rhan, a chofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at tfw.innovations@tfwrail.wales tfw.innovations@tfwrail.wales