Hoffech chi gyflwyno’ch cynnyrch i’r farchnad neu ydych chi’n chwilio am farchnad fwy? 

Ydych chi am dyfu eich busnes newydd a’i ehangu?  

A fyddai 11 wythnos o gontract gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru yn eich galluogi i fynd â’ch busnes i lefel arall? 

Allech chi gyflawni hyn i gyd….

o gartref ... mewn cwta 11 wythnos? 

Hoffech chi ennill cyfran o £15,000? I’w wario fel y mynnoch, i helpu'ch busnes. 

 

Os yw hyn yn swnio’n berffaith ar gyfer eich cwmni technoleg newydd, darllenwch fwy. 

Bydd y neges hon yn esbonio sut gall ein Rhaglen Sbarduno Arloesedd ym maes rheilffyrdd Cymru, sy’n gweithredu o bell ac am ddim, yn golygu eich bod chi yn barod i gyflwyno MVP wedi'i ddilysu a sicrhau contract gwaith gyda Thrafnidiaeth Cymru.  Welsh rail, remote Innovation Accelerator Programme can have   

Mewn dim ond 11 wythnos. 

Ond nawr, mae hynny siŵr o fod yn teimlo’n bell iawn i ffwrdd. 

Gadewch i ni edrych ar rai o’r problemau sy'n dal eich busnes newydd yn ôl. 

Beth sy’n rhwystro eich busnes newydd

Mae gennych syniad gwych. Efallai bod gennych chi gynnyrch yn ei gamau cynnar. Efallai bod eich cynnyrch eisoes wedi cyrraedd y farchnad. 

Ond ar hyn o bryd – rydych chi’n mynd rownd mewn cylchoedd.  

Does dim modd gwireddu’r syniad gwych hwnnw.  

Mae camau cynnar eich cynnyrch fel person ifanc yn ei harddegau sydd heb aeddfedu. Dydy’r cynnyrch ddim yn cynhyrchu’r arian i’w lawn botensial. 

Mae'r oriau hir yn cronni. Mae'r gwaith caled yn mynd yn anoddach. Rydych chi'n gwneud eich gorau glas, ond dyw’r canlyniadau ddim yno. 

Rhywsut, dydych chi ddim yn llwyddo i gyflwyno’r ateb i’r bobl iawn. 

Mae angen “troed yn y drws”. 

Does gennych chi ddim yr adnoddau i gyflwyno rhywbeth a fydd yn denu’r buddsoddwyr i fuddsoddi ynddo.  

Does gennych chi ddim y data i fireinio'ch syniadau nac adborth gan ddefnyddwyr go iawn i deilwra'ch ateb i ddiwallu’r angen. 

Mae’n rhwystredig. Mae’n frwydr.

Ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd i chi? Efallai mai dyma lle rydych chi arni. 

Ond peidiwch â phoeni. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. 

Gallwn helpu. 

Gall ein rhaglen sbarduno eich cyflwyno chi i’r bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau yn Trafnidiaeth Cymru.    

Gallwn roi mynediad i chi at randdeiliaid, data, profion cwsmer a mentoriaid.   

Gallwch eich helpu i ddatblygu a chyflwyno MVP i sicrhau contract gwaith. 

A gallwn wneud hyn mewn cwta 11 wythnos. 

Sut?  

Gyda’n rhaglen sbarduno arloesedd o bell rhad ac am ddim   

Beth yw’r rhaglen a sut gall helpu busnes newydd i dyfu?  

Darllenwch fwy, a gallwn ddweud yn union sut gall ein rhaglen sbarduno arloesedd roi cyfle i chi: 

  • • Diogelu contract gwaith gyda Thrafnidiaeth Cymru 
  • • Sicrhau cyllid i gefnogi datblygiad eich ateb 
  • • Tyfu ac ehangu eich busnes newydd 
  • • Ennill cyfran o £15,000 

 

Beth yw Lab gan Trafnidiaeth Cyrmu?

Mae Lab Trafnidiaeth Cymru yn rhaglen sbarduno arloesedd sy’n benodol i reilffyrdd yng Nghymru. Mae’n bartneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru i wella eu profiad cwsmer. 

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer ail garfan ein rhaglen, a fydd yn cael ei chynnig o bell, ar-lein. 

Mae hynny’n golygu y gallwch gymryd rhan yn ein rhaglen 11 wythnos o’ch cartref. Mae’n caniatáu i chi weithio a thyfu eich busnes yn ddiogel gan ddilyn canllawiau COVID-19 cyfredol y llywodraeth. Does dim angen teithio, ac nid oes unrhyw gostau. 

Ymhen 11 wythnos ar ddiwedd ein rhaglen sbarduno o bell, bydd eich busnes newydd yn barod i gynnig ateb dilys i banel sy’n gwneud penderfyniadau o fewn Trafnidiaeth Cymru.    

Bydd hwn yn gyfle i chi sicrhau contract gwaith a chaniatáu i chi gael cyllid i orffen datblygu eich cynnyrch i'w gyflwyno ar draws Trafnidiaeth Cymru ac i roi mwy o refeniw i’ch busnes. 

Beth gewch chi yn ein Rhaglen Sbarduno 

  • • Rhaglen 11 wythnos o bell o Weithdai, Sesiynau Rhanddeiliaid un-i-un a Mentora. 
  • • Mynediad at ddata, adnoddau a gwybodaeth o fewn y diwydiant rheilffordd.  
  • • Canllawiau ar dulliau gweithio datblygu a dylunio arloesol a darbodus. 
  • • Canllawiau masnachol, pitsio ac ariannol. 
  • • Y sgiliau sydd eu hangen i brofi a dilysu bod eich cynnyrch yn addas i'r farchnad. 
  • • Mynediad i ddata Trafnidiaeth Cymru i helpu i fireinio'ch cynnyrch a'ch ateb. 
  • Opportunities to liaise and network with TfWR Senior Leadership Team and stakeholders.  
  • • Mynediad at ddysgu ar-lein, adnoddau gweithdai a chymuned o fusnesau newydd. 
  • • Diwrnod arddangos lle byddwch chi'n cyflwyno'ch atebion terfynol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o fewn Trafnidiaeth Cymru gyda’r cyfle i sicrhau contract gwaith. 
  • • Cyfle i ennill cyfran o £15,000 i’w wario fel y mynnoch. 
  • • Wedi’i drefnu dros y we, gan ganiatáu mynediad o bell. 

Dyma gyfle i chi ddatblygu cynnyrch ac atebion dilys i wella rheilffyrdd yng Nghymru ac i ehangu eich busnes newydd. Yn y ffordd fwyaf amser-effeithiol a chost-effeithiol bosib.  

Bydd ein tîm cyflenwi yn sicrhau eich bod yn datblygu atebion addas a phwrpasol y gellir eu hehangu, gan roi'r cyfle gorau i chi gynhyrchu refeniw i'ch busnes.  

Mae’r rhaglen yn rhad ac am ddim ac ni fydd yn costio ceiniog i chi gymryd rhan.   

 

Beth i’w ddisgwyl 

Mae ein rhaglen o bell yn lansio ddydd Mercher Gorffennaf 29ain. 

Mae’r rhaglen yn para 11 wythnos, dan ddod i ben gyda diwrnod arddangos lle byddwch yn cyflwyno eich atebion terfynol gerbron y rheini sy’n gwneud penderfyniadau o fewn Trafnidiaeth Cymru. 

Bydd y rhaglen gyfan yn cael ei chyflwyno dros y we, fwy neu lai, drwy fideo-gynadledda. 

Bydd llinellau cyfathrebu hefyd ar agor ar draws Microsoft Teams, slack ac e-bost. 

Bydd ein tîm arloesedd yn cyflwyno sesiynau rhyngweithiol wythnosol ac yn cynnal gweithdai bob dydd Mercher. Bydd angen i chi fod yn bresennol ym mhob un o’r sesiynau hyn. 

Yn y sesiynau hyn, byddwch yn dysgu ac yn datblygu eich set sgiliau ar draws datblygiad MVP, meddwl yn nhermau dylunio, arloesi cynnyrch a chael mynediad i aelodau uwch-dîm, data ac adnoddau Trafnidiaeth Cymru. 

Bydd y rhaglen yn cychwyn gyda sesiynau datblygu cynnyrch i ddysgu'r technegau a'r arferion y bydd eu hangen arnoch chi drwy gydol y rhaglen 

  

 

 

Gwnewch gais nawr  

Os ydych chi'n barod i uwchraddio ac uwch-sgilio eich busnes newydd a mynd â'ch cynnyrch i'r farchnad, rydyn ni eisiau clywed wrthoch chi. 

Gwnewch gais nawr yn > https://www.f6s.com/labbytransportforwales2020/apply 

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni yn - enquiries@tfwlab.wales  

Our innovation team will deliver weekly interactive sessions and facilitate workshops each Wednesday. Your attendance will be required for each of these sessions. 

Dilynwch ni ar Twitter https://twitter.com/WalesLab 

  

Ymgeisiwch Nawr 

 

  

   

 https://twitter.com/WalesLab